Zechariah 2

Gweledigaeth 3 – Llinyn Mesur

1Edrychais eto, a gweld dyn gyda llinyn mesur yn ei law. 2Gofynnais iddo, “Ble ti'n mynd?” A dyma fe'n ateb, “I fapio Jerwsalem, a mesur ei hyd a'i lled.”

3Yna dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn cerdded i ffwrdd, a daeth angel arall i'w gyfarfod. 4Dwedodd hwnnw wrtho, “Brysia! Dos i ddweud wrth y dyn ifanc yna y bydd dim waliau i Jerwsalem. Bydd cymaint o bobl ac anifeiliaid yn byw ynddi! 5Mae'r Arglwydd yn dweud, ‘Bydda i fy hun fel wal o dân o'i chwmpas, a bydd fy ysblander yn disgleirio o'i mewn hi.’”

Galw pobl yn ôl adre o'r gaethglud

6“Hei, dewch! Gallwch ddianc o dir y gogledd!” meddai'r Arglwydd. “Ro'n i wedi eich chwalu chi i bob cyfeiriad, i'r pedwar gwynt. 7Ond gallwch ddianc o Babilon a dod adre, bobl Seion!” 8Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud: Ar ôl i'w ysblander ddod, bydd yn fy anfon i at y gwledydd wnaeth ymosod arnoch chi, i ddweud fod unrhyw un sy'n eich cyffwrdd chi yn cyffwrdd cannwyll ei lygad! a 9“Dw i'n mynd i'w cosbi nhw mor galed, bydd eu caethion yn cymryd popeth oddi arnyn nhw!” meddai. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r Arglwydd holl-bwerus sydd wedi fy anfon i.

10“Canwch a dathlwch, bobl Seion! Dw i'n dod i fyw yn eich canol chi,” meddai'r Arglwydd. 11“Bydd llawer o wledydd yn uniaethu â'r Arglwydd bryd hynny, a byddan nhw hefyd yn bobl i mi. b Yn wir, bydda i'n byw yn eich canol chi i gyd.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r Arglwydd holl-bwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. 12Bydd yr Arglwydd yn cymryd Jwda fel ei ran arbennig e o'r wlad gysegredig, a bydd yn dewis Jerwsalem iddo'i hun unwaith eto. 13Ust! Pawb drwy'r byd, byddwch dawel o flaen yr Arglwydd! Mae e ar fin gweithredu eto o'r lle sanctaidd ble mae'n byw.

Copyright information for CYM